2012 Rhif 2411 (Cy. 261) (C. 93)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru’r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 1 Hydref 2012.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn gweddill Rhan 1 o'r Mesur sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdod lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol (“partneriaid iechyd meddwl lleol”) ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn unol â chynllun y mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol ar gyfer yr ardal honno wedi cytuno arno neu a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru. Mae Rhan 1 o'r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gwneud asesiad iechyd meddwl sylfaenol o unigolion mewn amgylchiadau penodol.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn gweddill darpariethau’r Mesur.

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 


Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

 

O.S. Rhif

Adran 1

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 2

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 4

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 5

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 11

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 12

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 13

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 14

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 15

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 16

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 17

6 Mehefin 2012

(yn rhannol)

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 18

6 Mehefin 2012

(yn rhannol)

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 19

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 20

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 21

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 22

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 23

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 24

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 25

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 26

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 27

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 28

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 29

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 30

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)


 

Adran 31

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 32

3 Ionawr 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 33

2 Ebrill 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 34

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 35

3 Ionawr 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 36

2 Ebrill 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 37

3 Ionawr 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 38

2 Ebrill 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 39

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 40

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 41

6 Mehefin 2012 (yn rhannol)

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 42

6 Mehefin 2012 (yn rhannol)

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 43

8 Mai 2012

(yn rhannol)

6 Mehefin 2012 (yn rhannol)

2011/3046 (Cy.321) (C.116) 2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 44

3 Ionawr 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 45

8 Mai 2012

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 46

6 Mehefin 2012

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 47

6 Mehefin 2012 (yn rhannol)

2012/1397

(Cy.169) (C.52)

Adran 53(1)

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Adran 54

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)


 


Atodlen 1

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Atodlen 2

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046 (Cy.321) (C.116)

Gweler hefyd adran 55(1) o’r Mesur ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo’r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

 


2012 Rhif (Cy. ) (C. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012

Gwnaed                                   15 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).

Enwi a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Hydref 2012

2. Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—

(a)     Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);

(b)     Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);

(c)     Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);

(d)     Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);

(e)     Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);

(f)      Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);

(g)     Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(h)     Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(i)      Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(j)      Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(k)     Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(l)      Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac

(m)   Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

15 Medi 2012



([1])     2010 mccc 7.